OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 467 (Cy. 78)
Ardrethu a phrisio, CYMRU
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2012
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993 (O.S. 1993/252) (“Rheoliadau 1993”) yn darparu ar gyfer cynnwys yr hysbysiadau galw am dalu ardrethi, sy'n cael eu dyroddi gan awdurdodau bilio (cynghorau sirol a bwrdeistrefol) yng Nghymru, a’r wybodaeth y mae’n rhaid ei chyflenwi pan fo'r hysbysiadau hynny'n cael eu cyflwyno gan yr awdurdodau hynny.
Mae'r Rheoliadau hyn, sydd yn gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau 1993 drwy ddiwygio'r wybodaeth sydd i'w chyflenwi.
Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas ag ardrethi sydd i'w talu ar ôl 31 Mawrth 2012 yn unig.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd hi'n angenrheidiol gwneud asesiad effaith rheoleiddiol o ran costau a manteision tebygol cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU
2012 Rhif 467(Cy.78 )
Ardrethu a phrisio, CYMRU
Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2012
Gwnaed 20 Chwefror 2012
Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru 23 Chwefror 2012
Yn dod i rym 16 Mawrth 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 62, 146(6) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988([1]) a pharagraffau 1 a 2(2) o Atodlen 9 iddi ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993([2]) ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy([3]).
Enwi a chychwyn
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) (Diwygio) 2012 a deuant i rym ar 16 Mawrth 2012.
Diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993
2.—(1) Mae Atodlen 2 i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993([4]) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1 o Ran 1 o'r Atodlen, yn lle'r is-baragraff o dan y pennawd “Small Business Rate Relief” rhodder—
“Small Business Rate Relief
The Non-Domestic Rating (Small Business Relief) (Wales) Order 2008 makes provision for rates relief for small businesses. Full details including the eligibility criteria, the exceptions, the procedural requirements and the relevant rates reliefs are available from the billing authority.”.
3. Ym mharagraff 1 o Ran 2 o'r Atodlen, yn lle'r is-baragraff o dan y pennawd “Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach” rhodder—
“Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach
Mae Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Ardrethi i Fusnesau Bach) (Cymru) 2008 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhyddhad ardrethi i fusnesau bach. Gellir cael manylion llawn, yn cynnwys meini prawf cymhwysedd, yr eithriadau, y gofynion gweithdrefnol a’r rhyddhad ardrethi perthnasol gan yr awdurdod bilio.”.
Carl Sargeant
Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
20 Chwefror 2012
([1]) 1988 p.41. Diwygiwyd paragraff 2(2) o Atodlen 9 gan baragraff 44(2) a (3) o Atodlen 5 i Ddeddf Tai a Llywodraeth Leol 1989 (p.42). Mae diwygiadau eraill ond nid oes yr un ohonynt yn berthnasol.
([3]) Trosglwyddwyd pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672). Trosglwyddwyd swyddogaethau Cynulliad Cenedlaethol Cymru i Weinidogion Cymru o dan baragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).